Mae Powys yn rhanbarth mawr a thenau ei phoblogaeth ac yn cyfateb ag oddeutu chwarter maint Cymru, ond dim ond 8% o'i phoblogaeth. Mae'n ardal lle y ceir incwm isel (mae 40% o'r dynion a 52% o'r menywod yn ennill llai na'r trothwy gwedduster Ewropeaidd ac mae'r boblogaeth leol dan anfantais bellach oherwydd ei gwledigrwydd ac yn rhan o'r 20% yng Nghymru sy'n gallu manteisio leiaf ar wasanaethau.
Mae Llanidloes yn dref farchnad fach yng nghanol Cymru, a sicrhaodd ei siarter ym 1280. Hon yw'r dref gyntaf ar lan Afon Hafren, a arferai ddarparu'r p<eth>er i yrru diwydiant gwlanen llewyrchus, ynghyd â'i llednentydd, gan ddefnyddio'r gwlân a dyfwyd yn lleol.
Lansiwyd Pedec ym 1989 gyda chymorth ariannol Oxfam a Chymorth Cristnogol. Am nifer o flynyddoedd, roedd tri aelod o staff rhan-amser yn ei redeg (a oedd yn cyfateb â 30 awr yr wythnos); un yn gweithio gydag ysgolion, un yn canolbwyntio ar ddatblygu'r adnoddau addysgu ac un yn delio â'r gwaith gweinyddol a chodi arian. Yn ystod y cyfnod hwn, buom yn paratoi Taflenni Gwasanaeth i Athrawon i'w defnyddio yn y dosbarth, o'r enw Materion Byd, a Llwybrau Pedec, casgliad o detholiadau o gyhoeddiadau cyfredol ynghylch materion yn ymwneud â datblygu. Ym 1999, llwyddwyd i sicrhau arian gan y Loteri am 3 blynedd dan y Rhaglen Grantiau Rhyngwladol, a bu hyn yn fodd i ni godi cyfanswm oriau gwaith eich gweithwyr rhan-amser. Yna, rhoddwyd y gorau i gynhyrchu Materion Byd, gan ganolbwyntio ar gynnal gweithdai ar gyfer y sector addysg ffurfiol. Yn 2003, cawsom grant Ymwybyddiaeth Datblygu 3 blynedd gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, a wnaeth ein galluogi i gyflogi aelod o staff amser llawn, gan ehangu ein gweithgareddau i'r sector busnes.
Mae rhwydweithio wedi bod yn bwysig i ni ers y cychwyn a daethom yn un o sefydlwyr a chynhalwyr Cyfanfyd a Dolen Ffermio. Yn lleol, rydym wedi parhau i gydweithio gyda'r AALl. Yn genedlaethol, rydym wedi parhau i fod yn aelod o Cyfanfyd.
Llwyddwyd i sicrhau statws elusennol yn 2001.

© 2010 PEDEC